Visteon: Pensiynwyr o Abertawe yn galw am gefnogaeth
- Cyhoeddwyd

Prynodd cwmni Visteon y safle oddi wrth Ford yn 2000
Mae cyn-weithwyr ffatri cydrannau ceir yn Abertawe sy'n honni bod arian pensiwn yn ddyledus iddyn nhw wedi mynd â'u hymgyrch i San Steffan bedair blwyddyn ar ôl i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Er i gwmni Visteon fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2009 mae'r staff wedi bod yn galw am well taliadau.
Fe brynodd cwmni Visteon y safle oddi wrth Ford yn 2000.
Mae cwmni Ford, drosglwyddodd gronfeydd ymddeol i Visteon, wedi dweud nad ydyn nhw'n gyfrifol am y taliadau pensiwn.
Mwy diogel
Mae'r gweithwyr yn honni iddyn nhw golli rhan sylweddol o'u harian pan aeth Visteon i ddwylo'r gweinyddwyr.
Dywedodd y gweithwyr y dylai Ford fod wedi sicrhau bod eu pensiynau yn fwy diogel.
Ymunodd cyn-weithwyr a'u teuluoedd â chyn-weithwyr Visteon eraill pan gyflwynon nhw lythyr i'r Prif Weinidog yn galw ar David Cameron i gefnogi eu hymgyrch.
Dywedodd John Elvins, fu'n gweithio yn y ffatri am bron 40 mlynedd: "Roedd 'da fi gronfa bensiwn 30 mlynedd gyda Ford ac fe drosglwyddais i'r gronfa honno i Visteon.
"Wnes i weithio i Visteon am wyth mlynedd ond dim ond pensiwn 24 blynedd ges i pan aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr ... felly rwy' wedi colli swm sylweddol o arian."
Dywedodd llefarydd ar ran Ford fod y cwmni wedi cyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol a moesol i gyn-weithwyr Visteon yn y DU.
Ychwanegodd nad oedd Ford yn rhan o'r penderfyniad i roi Visteon yn nwylo'r gweinyddwyr a dylai rheolwyr Visteon ac ymddiriedolwyr y gronfa bensiwn ateb unrhyw gwestiynau am y pensiynau.
Uchel Lys
Dywed undeb Unite fod Ford wedi addo gwarchod telerau ac amodau'r gweithwyr pan gawsant eu trosglwyddo i weithio i Visteon.
Aeth undeb Unite â Ford i'r Uchel Lys ym mis Ionawr 2011.
Dywedodd yr undeb y dylai Llywodraeth y DU roi pwysau ar Visteon i dalu'r cyn-weithwyr.
Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher gwahoddodd AS lleol y Blaid Lafur, Siân James, y Prif Weinidog i gyfarfod â'r ymgyrchwyr.
Dywedodd Mr Cameron na allai wneud hynny am fod ganddo gyfarfod ag arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, i drafod Ymchwiliad Leveson.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012
