Prif Swyddog Deintyddol: Gormod o blant â phydredd dannedd
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr arolwg deintyddol ei gynnal gan Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae arbenigwyr iechyd dannedd yn dweud bod gormod o blant yng Nghymru yn dal i ddioddef o bydredd dannedd, er bod y nifer wedi gostwng.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer y plant 5 oed gyda'r broblem wedi gostwng 6% i 41% yn ystod y chwe blynedd diwethaf.
Bydd cynllun iechyd y geg newydd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Mae dros 78,000 o blant yng Nghymru eisoes yn rhan o raglen genedlaethol Llywodraeth Cymru i wella iechyd y geg.
'Codi ymwybyddiaeth'
Ond yn ôl y Prif Swyddog Deintyddol, David Thomas, mae pydredd dannedd yn dal yn "rhy uchel".
"Calon y cynllun yw atal pydredd dannedd," meddai.
"Hwn yw un o'n prif amcanion ynghyd â'r angen i godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau pobl i gymryd cyfrifoldeb am iechyd y geg."
Cafodd yr arolwg deintyddol ei gynnal gan Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r Arolwg wedi ei gyhoeddi ar wefan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
