Casnewydd yn ennill tir yn Uwch Gynghrair y Blue Square
- Cyhoeddwyd

Robbie Willomott un o arwyr Casnewydd yn Nuneaton
Mae Casnewydd bellach yn drydydd yn Uwch Gynghrair Blue Square ar ôl curo Nuneaton oddicartre o ddwy gôl i un.
Mi fydd tim Jason Edinburgh yn gweld y canlyniad fel hwb i'w ymdrechion am ddyrchafiad ar ôl methu mantesio ar y gemau mewn llaw oedd ganddyn nhw yn ddiweddar.
Y tim cartre aeth ar y blaen gyda Simon Forsdick yn rhwydo ar ol chwarter awr. Ond fe reolodd Casnewydd y chwarae yn yr ail hanner. Mi sgoriodd Robbie Willmott cyn yr awr i'w gwneud hi'n gyfartal.
Mi ddaeth y gôl fuddugol ar ol 77 o funudau pan rwydodd James Armson yn ei rwyd ei hun.