Gwyddonwyr Aberystwyth: Yr Antarctig a theithiau'r gofod
- Cyhoeddwyd

Y Dr Arwyn Edwards, Simon Cameron a'r Dr Luis Mur
Mae gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect sy'n mesur sut mae tîm "Y Daith Oeraf," yr ymgais gyntaf i geisio croesi'r Antarctig yn y gaeaf, yn ymateb i fisoedd o fyw mewn tywyllwch llwyr mewn tymheredd o -70C.
Y Dr Arwyn Edwards, y Dr Luis Mur a myfyriwr doethuriaeth Simon Cameron o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), sy'n ymuno â chonsortiwm rhyngwladol a chasglu gwybodaeth wyddonol.
Mae'r prosiect yn defnyddio'r tebygrwydd rhwng amodau gaeaf yn yr Antarctig a'r rhai yn y gofod.
Y gobaith yw y bydd canfyddiadau gwyddonwyr yn helpu cynllunio teithiau i'r blaned Mawrth.
Pegwn y De
Mae'r daith dros 2,000 o filltiroedd o Fae'r Goron i Ganolfan Capten Scott yn McMurdo Sound drwy Begwn y De yn cymryd chwe mis a'r gobaith yw y bydd yn dod i ben ym mis Mai.
Eisoes bu raid i Syr Ranulph Fiennes adael oherwydd brath rhew.
Er bod effaith ymdrechion pobl i deithio i'r pegynau'n chwedlonol, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am sut mae'r organebau lleiaf sy'n ffurfio ecosystem ficrobaidd dynol yn goroesi.
Tîm y sefydliad fydd yn mapio microbiomau y teithwyr yn yr Antarctig dros gyfnod o amser.

Bydd data a samplau yn cael eu casglu gan aelodau'r criw teithio
Dywedodd y Dr Arwyn Edwards: "Mae ymchwil i'r microbiom dynol o dan amodau arferol yn faes ymchwil â phroffil uchel gydag oblygiadau mawr i iechyd ac afiechyd, gan fod y microbau sy'n byw ar ein cyrff 10 gwaith yn fwy niferus na'n celloedd.
"Byddwn yn edrych ar newidiadau yn y croen, perfedd, poer a chymunedau microbaidd y trwyn.
"Byddwn hefyd yn edrych ar arwyddion o straen yng ngwaed y teithwyr ac yn cydberthyn y newidiadau mewn lefelau straen a'r cymunedau microbaidd."
Dadansoddi
Bydd data a samplau yn cael eu casglu gan aelodau'r criw teithio, gan ddefnyddio gweithdy gwyddonol o fewn cynhwysydd pwrpasol 27 troedfedd o hyd.
Wedyn bydd y samplau yn cael eu hanfon i'w dadansoddi at sefydliadau ymchwil, gan gynnwys yr un yn Aberystwyth.
Bydd y teithwyr yn gwbl hunangynhaliol.
Ni fydd hi'n bosib cael adnoddau chwilio ac achub gan na all awyrennau dreiddio i'r mewndir yn ystod y gaeaf oherwydd y tywyllwch a'r perygl o danwydd yn rhewi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd11 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd11 Hydref 2011