Llacio rheolau i ffermwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi llacio'r rheolau dros dro i ganiatáu ffermwyr i gladdu anifeiliaid fu farw yn y lluwchfeydd diweddar.
Ond dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am amaethyddiaeth, Alun Davies, mai dim ond mewn achosion lle nad oedd hi'n bosib i loriau gyrraedd ffermydd y byddai claddu'n cael ei ganiatáu.
Bydd y rheolau'n cael eu llacio am saith niwrnod.
Dyma adroddiad Sion Tecwyn ar Newyddion nos Fawrth.