Ffrwydradau yn destun pryder yn Ninbych
- Cyhoeddwyd

Yn ardal Pwll y Grawys y bu'r ffrwydradau
Mae'r heddlu yn cynnal patrolau ychwanegol yn Ninbych wedi i gyfres o ffrwydradau gyda'r nos achosi difrod i gartrefi a cheir yno, a chodi ofn ar bobl leol.
Mae 13 ffrwydrad wedi ysgwyd ardal Pwll y Grawys yn y dref ers dechrau mis Mawrth - y diweddaraf fore Mawrth yn ymyl tŷ ger siop ddodrefn.
Bythefnos yn ôl, chwalwyd tair ffenest mewn tŷ arall wedi ffrwydrad a daniodd belen draul (ball-bearing) fewn i ystafell wely gan ddifrodi pen gwely yno.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.
'Pryderus'
Yn ôl un o'r cynghorwyr tref, mae pum car wedi eu difrodi wedi i ddyfeisiau ffrwydrol gael eu gosod oddi tanynt neu ar y bonedau.
Dywedodd John Larsen "Mae'n bryderus iawn. Mae pobl yma'n ofni beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf.
"Mae dyn yn gorwedd yn effro yn y nos yn dyfalu - ac mae'n eich blino. Pan gawson ni gyfarfod o gymdeithas y preswylwyr lleol, roedd rhai pobl yn eu dagrau."
Mae'r heddlu yn edrych ar luniau camerâu cylch cyfyng, ac mae profion fforensig yn cael eu cynnal ar ddeunyddiau a gasglwyd yn y lleoliadau ble digwyddodd y ffrwydradau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn ceisio darganfod ai tân gwyllt neu ddyfeisiau eraill sydd wedi achosi'r ffrwydradau.
Cafodd dau ddyn, 22 a 23 oed, eu harestio wythnos diwethaf fel rhan o ymchwiliad yr heddlu.
Cawsant eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.