Wrecsam: Cyfle olaf am y bencampwriaeth?
- Cyhoeddwyd

Chwaraewyr Wrecsam yn dathlu ennill Tlws yr FA ym mis Mawrth
Cyn i Wrecsam ennill Tlws FA Lloegr yn Wembley fis diwethaf fe ddywedodd y rheolwr Andy Morrell mai sicrhau dyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed oedd y flaenoriaeth.
Gyda chwe gêm o'r tymor arferol yn weddill, mae llygad y chwaraewr/rheolwr yn dal ar ennill pencampwriaeth Uwchgynghrair Blue Square Bet.
Nos Iau mae'r cyfle olaf fwy na thebyg i Morrell a'i dîm sicrhau y bydd hynny'n digwydd heb fod angen y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor arferol.
Mansfield yw'r ymwelwyr i'r Cae Ras, y tîm ar rediad o 12 buddugoliaeth yn olynol a'r ffefrynnau i gipio'r un lle sy'n sicrhau dyrchafiad yn awtomatig.
Mae Mansfield 10 pwynt ar y blaen i Wrecsam, a naw o flaen Casnewydd, a'r unig obaith yw sicrhau bod y rhediad yna'n dod i ben nos Iau.
£245,000
Ym mis Ionawr cyhoeddodd Wrecsam eu bod wedi gwneud colled o dros £245,000 dros y flwyddyn flaenorol ac roedd y cyfarwyddwyr wedi eu plesio gan eu bod wedi cynllunio am hynny ac yn disgwyl colled lai y flwyddyn wedyn.
Oherwydd yr arian ddaeth i mewn oherwydd gorchestion Wembley mae'n debyg bod y ddyled wedi diflannu, gan roi'r clwb ar dir cadarnach fyth.
Er hynny, byddai dyrchafiad yn hwb o tua £700,000 y tymor i'r clwb gan fynd y tu hwnt i obeithion gorau bwrdd y clwb sydd bellach yn eiddo i'r cefnogwyr.
Fe fydd Wrecsam yn gobeithio bod Danny Wright, Neil Ashton a David Artell ar gael nos Iau.
Nid yw Wright wedi chwarae ers y gêm yn Wembley oherwydd anaf i'w wddf ac mae'r ddau arall yn gwella o anafiadau i'r ffêr.
Er mai Kidderminster sydd ar frig y tabl maen nhw wedi chwarae tair gêm yn fwy na phawb arall o'u cwmpas, sy'n golygu mai Mansfield fydd yn gobeithio gorffen ar y brig.
Pe bai hynny'n digwydd, yr unig obaith i'r ddau dîm o Gymru fyddai ennill y gemau ail gyfle.
Mae Casnewydd a Wrecsam wedi bod yn Wembley yn rownd derfynol Tlws yr FA yn 2012 a 2013 ond fe fydd un ymddangosiad buddugoliaethus arall ym mhencadlys pêl-droed Lloegr yn werth mwy i'r ddau glwb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013
