Cyhuddo dyn o lofruddio peilot o Ben-y-bont
- Cyhoeddwyd

Roedd Steven Barrett newydd adael yr Awyrlu
Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio peilot mewn fflat yng Nghaeredin.
Cafwyd hyd i gorff Steven Barrett, 27 oed, - oedd yn wreiddiol o Ben-y-bont - yn Lochend, Caeredin yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Roedd Mr Barrett newydd adael yr Awyrlu.
Dywed Heddlu'r Alban fod dyn 23 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Mr Barrett.
Roedd y Cymro yn gweithio fel swyddog ym Maes Awyr Caeredin.
Mae'r dyn sydd wedi ei gyhuddo o'i lofruddio gerbron Llys Siryf Caeredin.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol