Elw mwyaf erioed i Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau ar y gweill i ehangu Stadiwm Liberty
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi eu helw mwyaf erioed o £15.9 miliwn yn y chwe mis hyd at fis Tachwedd 2012.
Mae'r elw bron £10 miliwn yn fwy nag yn yr un cyfnod yn 2011.
Mae'r elw cyn treth o £20,4 miliwn yn cynnwys £5.6 miliwn o elw gweithredol, gydag £14.8 miliwn yn dod o werthiant chwaraewyr gan gynnwys Joe Allen i Lerpwl a Scott Sinclair i Manchester City.
Cododd trosiant y clwb hefyd i £28.5 miliwn - twf o 11.5% o'r chwe mis blaenorol.
Dywedodd cyfarwyddwr ariannol y clwb, Don Keefe: "Mae'r elw yn amhrisiadwy o ystyried yr arian sydd angen i gadw ein statws yn yr Uwchgynghrair ac i ehangu Stadiwm Liberty, a hefyd i ddatblygu anodau ymarfer i safon sy'n briodol i dîm yn yr Uwchgynghrair."
Mae cynlluniau ar gyfer y rhan gyntaf o ehangu Stadiwm Liberty eisoes wedi cael eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2013
