Heriau diogelwch angladd Thatcher
Mae dros 4,000 o swyddogion heddlu ar ddyletswydd yn Llundain ddydd Mercher ar gyfer angladd y Farwnes Thatcher.
Bydd arch y cyn brif weinidog Ceidwadol yn teithio o San Steffan ar orymdaith drw ganol Llundain, cyn cyrraedd Cadeirlan St Paul's ar gyfer gwasanaeth am 11:00am.
Bydd 2,300 o bobl o 170 o wledydd yn yr angladd.
Sion Tecwyn fu'n holi'r arbenigwr ar ddiogelwch, Dai Davies, ar yr heriau diogelwch sydd ynghlwm â digwyddiad fel hyn.