Mantais sylweddol i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd batwyr Morgannwg fore llewyrchus ar drydydd diwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerwrangon yng Nghaerdydd.
Dechreuodd Morgannwg y bore ma ar gyfanswm o 235 am 7 wiced yn eu batiad cyntaf yn Stadiwm Swalec.
Roedd Jim Allenby ar 71 heb fod allan dros nos, ond fe gollodd ei wiced yn fuan am 78.
Ond yna fe ddaeth cyfraniad sylweddol ac annisgwyl gan y troellwr Dean Cosker wedi i Graham Wagg fod allan am 24.
Pan gollodd Morgannwg eu wiced olaf ychydig cyn cinio, roedd Cosker wedi sgorio 44 heb fod allan, ond fe redodd allan o bartneriaid.
Daeth y batiad i ben ar 295 - mantais o 172 dros yr ymwelwyr.
Bydd Morgannwg yn gobeithio cipio wicedi cyflym wrth i Sir Gaerwrangon ddechrau eu hail fatiad.
Morgannwg v Sir Gaerwrangon - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran
Sgôr toc cyn cinio ar y trydydd diwrnod:-
Caerwrangon (batiad cyntaf) 123 (63.1 pelawd)
Morgannwg (batiad cyntaf) 295 (108.4 pelawd)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
