White yn profi'n ormod i Williams
- Cyhoeddwyd

Michael White, 21, yn y Crucible nos Sul
Roedd 'na dipyn o sioc ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield nos Sul, wrth i Mark Williams golli i un o'i gyd Gymry, Michael White yn y rownd gynta'.
Dyma'r tro cynta' i White, a anwyd yng Nghastell-nedd, chwarae yn y gystadleuaeth hon.
Fe gurodd o Williams o 10-6 yn y Crucible.
Roedd Williams wedi ennill y Bencampwriaeth ar ddau achlysur, yn 2000 a 2003.
Roedd White, 21, yn arwain 5-4 ar ddechrau'r sesiwn ddydd Sul.
"Mae'n anodd credu'r cyfan ond dwi wrth fy modd," meddai. "I chwarae cystal â hynny yn erbyn Mark, roedd yn anghredadwy."
Mae White, sy'n rhif 41 yn y byd, yn y Guiness Book of Records fel y chwaraewr ieuengaf i gael rhediad o 100. Fe lwyddodd i wneud hynny yn 2001 pan yn naw oed.
Aeth ymlaen wedyn i ennill Pencampwriaeth Amatur y Byd yn 14 oed.
Roedd nifer wedi darogan y gallai'r gêm yn erbyn Williams gynrychioli trobwynt o fewn snwcer Cymru.
Llwyddodd White i gael chwe rhediad o 50 yn erbyn ei wrthwynebydd, sydd ddim wedi bod yn chwarae ar ei orau yn ddiweddar.
Bydd White nawr yn wynebu un ai Stephen Maguire neu Dechawat Poomjaeng o Wlad Thai yn yr ail rownd.
Mae'r Cymry Matthew Stevens a Dominic Dale yn chwarae ddydd Mawrth.
Canlyniadau'r Cymry:
Rownd 1
Dydd Sul, Ebrill 21
Mark Williams 6-10 Michael White
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2013
