Cau traeth yn dilyn gollyngiad slyri yng Nghei Newydd
- Cyhoeddwyd

Llifodd y slyri i mewn i nant sy'n ymuno â'r môr yng Nghei Newydd
Mae traeth yng Ngheredigion wedi cael ei gau ar ôl i danc ar fferm rwygo gan ollwng 15,000 litr o slyri.
Llifodd y slyri i mewn i nant sy'n ymuno â'r môr yn Nhraeth y De, Cei Newydd.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nid oedd neb yn gwybod faint o'r slyri aeth mewn i'r nant.
Anfonwyd criw o ddiffoddwyr ac uned gwarchod yr amgylchedd o Lanelli i ddelio â'r digwyddiad brynhawn dydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn credu bydd y slyri yn gwasgaru'n gyflym gyda'r llanw a'r gwynt heno ac mae'n annhebygol o gael effaith sylweddol nac effaith hir dymor ar ansawdd y dŵr.
"Bydd ein swyddogion yn parhau i asesu'r sefyllfa yn ystod y dyddiau nesaf."