Gorsaf reilffordd newydd i ardal Caerffili
- Cyhoeddwyd

Bydd gwasanaeth trenau yn rhedeg hyd at ddwywaith pob awr i Gaerdydd a Rhymni pan fydd yr orsaf yn agor ar ddiwedd y flwyddyn.
Mae mwy o alw am drenau yng Nghaerffili y tu ôl i gynlluniau i adeiladu gorsaf newydd gwerth £5.2 miliwn yno.
Bydd y gwaith adeiladu i wasanaethau cymunedau Energlyn a Pharc Churchill yn dechrau yn ddiweddarach eleni.
Bydd gwasanaeth trenau yn rhedeg hyd at ddwywaith pob awr i Gaerdydd a Rhymni pan fydd yr orsaf yn agor ar ddiwedd y flwyddyn.
Mae'r cynllun yn rhan o brosiect ehangach i wella gwasanaeth y Cymoedd cyn i'r rhwydwaith gael ei drydaneiddio erbyn 2019.
'Teithio cynaliadwy'
Bydd yr orsaf yn cael ei hadeiladu rhwng Aber a Llanbradach gyda'r bwriad o leddfu tagfeydd ar ffyrdd, yn ôl Network Rail sy'n gyfrifol am y rhwydwaith trenau yn y DU.
"Mae'r cynnig hwn yn rhan o'n cynllun i drawsnewid y rheilffordd yng Nghymru ac fe fydd yn gwella'r gwasanaeth yn ardal Energlyn a Pharc Churchill," meddai Mark Langman ar ran Network Rail.
"Mae ardal sir Gaerffili wedi gweld cynnydd cyson o ran teithwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac fe fydd yr orsaf newydd yn diwallu'r angen hwn ac yn hybu teithio cynaliadwy gan helpu gwella'r economi lleol."
Bydd yr orsaf newydd yn cynnwys dau blatfform a mynediad heb risiau, llefydd parcio a chamerâu cylch cyfyng.
Bydd yr orsaf yn cael ei datblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Network Rail, Cyngor Caerffili, Cynghrair Trafnidiaeth De- Ddwyrain Cymru (Sewta) a Threnau Arriva Cymru ac wedi ei hariannu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd22 Hydref 2012
