Llewod: Jenkins yn y tîm hyfforddi
- Cyhoeddwyd

Roedd Neil Jenkins hefyd yn rhan o'r tîm hyfforddi yn 2009
Mae cyn faswr Cymru Neil Jenkins wedi ymuno â thîm hyfforddi'r Llewod ar gyfer eu taith i Awstralia a Hong Kong yn yr haf.
Roedd Jenkins yn rhan o'r tîm ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 2009, ac mae wedi cael ei benodi'n hyfforddwr cicio technegol ar gyfer y daith yn 2013.
Bydd Jenkins yn ymuno gyda hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley, a'r ddau Sais Andy Farrell a Graham Rowntree fel aelod o dîm hyfforddi Warren Gatland.
Er bod y tîm hyfforddi wedi cael eu cyhoeddi fesul dipyn, fe fydd y garfan lawn yn cael ei chyhoeddi gyda'i gilydd yn Llundain yr wythnos nesaf.
Mae un cwmni bwcis wedi gwrthod derbyn betiau ar Sam Warburton i fod yn gapten ar y daith.
Dywedodd cwmni Ladbrokes eu bod wedi derbyn llif o arian ar Warburton i arwain y daith, ond credir bod Gatland yn ei ystyried fel un o dri dewis posib gyda Brian O'Driscoll a Paul O'Connell o Iwerddon.
Mae ambell un hefyd wedi darogan y bydd mwy o Gymry nag erioed yn y garfan.
Dywedodd cyn faswr Cymru Stephen Jones y gallai Gatland gynnwys mwy na 15 o garfan Cymru i deithio gyda'r Llewod yn dilyn eu buddugoliaeth ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.
Bydd y daith bum wythnos yn dechrau gyda gêm yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong ar Fehefin 1 cyn symud i Awstralia.
Fe fydd y Llewod wedyn yn chwarae chwe gêm baratoadol cyn y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia yn Brisbane ar Fehefin 22.
Wythnos yn ddiweddarach daw'r ail brawf ym Melbourne cyn y prawf olaf yn Sydney ar Orffennaf 6.
Sgoriodd Jenkins, sy'n 41 oed, dros 1,000 o bwyntiau dros Gymru, ac roedd ei gicio'n rhan bwysig o fuddugoliaeth y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 1997.
Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Warren Gatland: "Yn ystod ei yrfa roedd Neil yn giciwr dylanwadol dros ben o'i ddwylo ac at y pyst, a bu'n gweithio fel hyfforddwr yn y maes pwysig yma gyda Chymru'n ddiweddar.
"Mae cicio tactegol - pryd i gicio a sut i gicio - ac wrth gwrs cicio cywir at y pyst yn hanfodol er mwyn cael llwyddiant ar y cae yn Awstralia, ac mae gan Neil wybodaeth eang iawn fydd ond yn llesol i'r chwaraewyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd10 Medi 2012

- Cyhoeddwyd4 Medi 2012
