Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam wedi'i chanslo
- Cyhoeddwyd

Cafodd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam ei chynnal yn flynyddol ers 14 mlynedd
Ni fydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yn cael ei chynnal eleni.
Dywedodd y trefnwyr fod y penderfyniad yn anodd ond bod pwysau ariannol ynghyd â llu o ddigwyddiadau eraill o bwys yn y dref yn ystod 2013.
O'r blaen y trefnwyr oedd Prifysgol Glyndŵr gyda chymorth Cyngor Wrecsam, Coleg Iâl, Techniquest Glyndŵr a Gyrfa Gogledd-ddwyrain Cymru.
Eleni roedd i fod i ddigwydd ym mis Gorffennaf.
Ond mae Prifysgol Glyndŵr eisoes wedi cynnal Gŵyl Delweddau Symudol Myfyrwyr Cymru - Ffresh - ym mis Chwefror a Gŵyl Gomedi Cymru dros y penwythnos.
Bydd y Cae Ras, sy'n eiddo i'r brifysgol, yn cynnal dwy gêm yng Nghwpan Rygbi 13 y Byd ym mis Tachwedd.
Er bod y pwyllgor yr ŵyl yn siomedig maen nhw'n hyderus y bydd yn dychwelyd yn 2014.
'Gweithio'n galed'
Dywedodd y cadeirydd, yr Athro Helen James: "Ar ôl ystyried am hir mae'n ddrwg gan Brifysgol Glyndŵr a'i phartneriaid gyhoeddi na fydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yn digwydd eleni.
"Mae'r ŵyl wedi gweithio'n galed dros nifer o flynyddoedd i sicrhau ei lle fel prif ddigwyddiad cyfathrebu gwyddonol Gogledd Cymru a'r ŵyl fwyaf o'i math yng Nghymru.
"Hoffwn ddiolch i'r holl gefnogwyr a chyfranwyr am eu hymrwymiad i'r digwyddiad dros y 14 blynedd diwethaf, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld eto yn 2014."