Tri yn yr ysbyty ar ôl damwain ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddamwain yn ninas Bangor
Mae tri'n cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar ôl damwain ddifrifol yn y ddinas amser cinio ddydd Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12.20pm ar ôl i gar a fan daro ei gilydd ar Ffordd Caernarfon.
Cafodd dyn a dwy ddynes eu cludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans.
Mae gwraig 76 oed yn ddifrifol wael.
Mae plismyn yn gofyn i unrhywun welodd y ddamwain i gysylltu gyda nhw ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol