Chwilio am dalent newydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae cynyrchiadau fel Dr Who yn dangos bod yna dalent yng Nghymru, meddai'r BBC
Mae BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddarganfod a meithrin talentau creadigol newydd yng Nghymru.
Dyma'r fenter gyntaf o'i bath a'r bwriad yw sicrhau mwy o gydweithio rhwng y ddau gorff a datblygu sgiliau digidol a chrefft yn y diwydiant.
Mae gobaith hefyd y bydd gwaith newydd yn cael ei gomisiynu ac y bydd mwy o gydweithio agos rhwng cyrff gwahanol yn y sector gelfyddydol yn y dyfodol.
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Craidd ein partneriaeth â BBC Cymru Wales yw gweithio gyda'n gilydd i gynyddu'r gwerth caiff bobl Cymru o'r arian cyhoeddus a roddant i'n dau gorff.
"Cyfunir ein harbenigedd i sicrhau y gwelir ac y mwynheir y gorau o'n celfyddydau.
"Buddsoddir hefyd ym mhosibiliadau creadigol ein prif artistiaid, gan sicrhau fod ganddynt y sgiliau a'r arbenigedd i ffynnu yn yr oes ddigidol sydd ohoni."
Nid dyma'r tro cyntaf i'r ddau gorff gydweithio.
Nhw sydd yn cyd-ariannu Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Yn ôl Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales mae hyn yn brawf o sut y mae'r bartneriaeth yn medru llwyddo.
"Drwy gydweithio, gallwn gyflawni cymaint mwy.
"Prawf o hynny yw Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
"Ond fe welwyd hefyd fudd bartneriaeth drwy'n gwaith diweddar ar 'Y Space' a gyfunodd sgiliau technegol a digidol gyda thalent berfformio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd mewn ffyrdd newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2012
.jpg)