Addysg yng Nghynor Sir Benfro ddim yn foddhaol
- Cyhoeddwyd

Dywedodd yr adroddiad fod 'newid diwylliant' wedi dechrau digwydd
Dyw gwasanaethau addysg ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Benfro ddim yn foddhaol, yn ôl adroddiad blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru.
Tra bod yr adroddiad wedi nodi bod yna welliannau wedi bod ar draws nifer o wasanaethau pwysig, mae'r ddogfen wedi dweud nad yw safon yr addysg yn y sir yn ddigon da.
Ond, meddai'r Archwilydd Cyffredinol, mae newid diwylliant wedi dechrau digwydd yn y cyngor sir a bod y gefnogaeth i bobl fregus yn dda.
Amgylchedd
Mae'r adroddiad wedi dweud bod sut mae'r cyngor yn ymdrin gyda'r amgylchedd yn datblygu'n dda a'u bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyrraedd targedau er mwyn lleihau gwastraff.
Dywedodd y ddogfen fod y cyngor yn parhau gyda'u hymrwymiad i gefnogi'r economi mewn cyfnod anodd a'u bod yn cefnogi ac yn datblygu cymunedau drwy sawl prosiect gwahanol.
Er bod 'na argymhellion am sut y dylai'r cyngor wella, meddai Swyddfa Archwilio Cymru, dydyn nhw ddim wedi gwerthuso a ydy'r gwelliannau'n ddigonol.
Mae'r adroddiad yn un o gyfres o adroddiadau blynyddol sy'n cael eu hysgrifennu ar gyfer pob un o'r 22 cyngor lleol, y parciau cenedlaethol a'r gwasanaethau tân.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd28 Medi 2012
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2013
