Dau Gymro yn gadael eu swyddi rheoli
- Cyhoeddwyd

Dim ond am bedwar mis fuo Dean Saunders yn reolwr ar glwb Wolves.
Mae dau Gymro wedi gadael eu swyddi fel rheolwyr ar dimau chwaraeodd yn y Bencampwriaeth yn ystod tymor 2012/13.
Cafodd cytundeb Dean Saunders ei ddiddymu gan glwb pel-droed Wolves, ac ymddiswyddodd Kenny Jackett fel rheolwr Millwall.
'Tymor siomedig'
Bydd Wolves yn chwarae eu pêl-droed yn yr Adran Gyntaf y tymor nesaf wedi tymor siomedig a welodd y clwb yn gorffen un safle o'r gwaelod yn y Bencampwriaeth.
Hon yw'r ail flwyddyn yn olynol i Dean Saunders fod yn rheolwr ar glwb wnaeth orffen yn nhri safle olaf y Bencampwriaeth, wedi iddo orffen ar waelod y tabl gyda Doncaster Rovers yn 2011/12.
Mae Doncaster ar eu ffordd yn ôl i'r Bencampwriaeth wedi iddynt sicrhau dyrchafiad dan reolaeth Cymro arall, Brian Flynn.
Dim ond am 20 gem y bu Dean Saunders yn rheolwr ar Wolves wedi iddo gymryd yr awenau ym mis Ionawr, pan roedd y clwb yn 18fed yn y Bencampwriaeth.
Mewn datganiad fe ddiolchodd y clwb i Saunders am ei waith yno gan ddymuno pob lwc iddo at y dyfodol.

Chwaraeodd Kenny Jackett dros Gymru ar 31 achlysur.
'Chwilio am her newydd'
Roedd Kenny Jackett wedi bod yn rheoli Millwall ers 2007.
Fe lwyddodd i fynd â'i glwb i'r rownd gynderfynol yng Nghwpan yr FA, ond ni chafodd y llwyddiant hynny ei adlewyrchu yn ymgyrch y clwb yn y Bencampwriaeth.
Dim ond dau bwynt uwchben y tri oedd ar waelod y tabl oedd Millwall ar ddiwedd y tymor.
Mewn datganiad ar wefan y clwb, dywedodd Mr Jackett ei fod yn chwilio am her newydd a'i bod hi'n hen bryd i "reolwr newydd ddod yma i Millwall, un sydd â syniadau ffres".