Tipyn o gamp
- Cyhoeddwyd

Dim ond tair gêm gynghrair mae'r clwb wedi eu colli drwy gydol y tymor
Bydd Rygbi Gogledd Cymru 1404 yn gorffen y tymor ar frig Adran Un y Dwyrain wedi i Ystrad Rhondda golli yn erbyn Merthyr.
Mae hyn yn golygu y bydd y clwb o Gonwy yn y Bencampwriaeth y flwyddyn nesaf beth bynnag fydd canlyniad gêm olaf y tymor.
Honno yw'r gêm ym Mharc Eirias yn erbyn Rhydyfelin.
Dywedodd Dai Davies, Cadeirydd Rygbi Gogledd Cymru wrth BBC Cymru fod y dyrchafiad yn "newyddion bendigedig".
"Rydan ni wedi bod yn disgwyl am hwn ers rhai wythnosau ... da iawn a chwarae teg iddyn nhw i gyd."
Cryfhau
Byddai'r clwb yn cryfhau, meddai, gan fod llawer o'r chwaraewyr yn ifanc.
"Pan 'dach chi'n meddwl am oed cyfartaledd y tîm - 19 ydi o.
"Mae yna ddyfodol disglair i lawer iawn o'r chwaraewyr a chyfle wedyn i rai o'r chwaraewyr eraill yn y gogledd i gael chwarae ar lefel uwch," meddai.
"Yn ddiweddar maen nhw wedi bod yn trafeilio i dde Cymru a gogledd Lloegr a llefydd felly i chwarae.
'Addysg'
"Dyma'r ffordd i ni fynd ymlaen a chadw'r hogia' yn y gogledd.
"Ac, wrth gwrs, bydd cyfle iddyn nhw chwarae rygbi a chael addysg yma yng ngholeg Llandrillo felly fydd dim angen iddyn nhw symud allan o ogledd Cymru."
Diolchodd i glybiau eraill gogledd Cymru a Chyngor Conwy "am roi adnoddau mor wych i ni chwarae ynddyn nhw".