Cwmni yn nwylo'r gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd

Mae cystadleuaeth yn y sector glybiau nos yn ffyrnig
Mae cwmni Atmosphere wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr oherwydd trafferthion ariannol.
Mae gan y cwmni o Loegr ddau glwb nos yng Nghymru, y Broadway Boulevard yn Llandudno a Chicago's yn Wrecsam.
Ym Mhrydain mae bron 500 yn cael eu cyflogi gan y cwmni ac mae'r swyddi'n ddiogel am y tro.
£4.1m
Fe wnaeth Atmosphere golled o £4.1m yn y flwyddyn oedd yn arwain at Chwefror 2012 ac mae rheolwyr wedi dweud mai gormod o gystadleuaeth yn y sector glybiau nos yw'r rhesymau am eu problemau.
Dywedodd Daniel Butters sy'n gweithio i'r gweinyddwyr, Deloitte, y byddai "y busnes yn parhau i fasnachu a'r holl leoliadau'n parhau i fod ar agor wrth i'r broses o ddarganfod prynwr fynd yn ei flaen".