Tyler: 'Fe wnes i fy ngorau'
- Cyhoeddwyd

Cafodd Bonnie Tyler 23 pwynt oedd yn llawer gwell na'r 12 gafodd y DU yn 2012
Dywedodd y gantores o Abertawe Bonnie Tyler ei bod wedi "gwneud ei gorau" yng nghystadleuaeth Can Eurovision wrth orffen yn 19eg o'r 26 cystadleuydd
Wrth siarad ar ddiwedd y gystadleuaeth ym Malmo, Sweden, dywedodd: "Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn siomedig ar fy rhan, ond dwi wedi mwynhau fy mhrofiad Eurovision.
"Fe wnes i fy ngorau gyda chân dda. Dydw i ddim yn teimlo'n ddigalon, ac rwy'n barod am barti."
Emmelie de Forest enillodd y gystadleuaeth i Ddenmarc gyda'r gan Only teardrops.
Daeth Denmarc i'r brig gyda 281 o bwyntiau gydag Azerbaijan yn ail ar 234 a'r Iwcrain yn drydydd gyda 214.
Gorffennodd Tyler yn 19eg gyda 23 p bwyntiau.
Ychwanegodd y gantores: "Roedd y caneuon ar frig y tabl yn haeddu bod yno. Wrth gwrs fe fyddwn i wedi hoffi ennill i'r DU, ond mae hi wedi bod yn noson i'w chofio.
"Dwi mor falch fy mod i wedi gwneud hwn oherwydd mae e wedi bod yn brofiad anhygoel."
Roedd ei chanlyniad yn well na'r llynedd pan ddaeth Englebert Humperdinck yn olaf ond un gyda 12 pwynt yn unig.
Roedd siom hefyd i Ryan Dolan o Iwerddon a ddaeth yn olaf gyda phum pwnt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2013
