Cyngor o dan y lach
- Cyhoeddwyd

Roedd yr ysgol i fod i gael ei hagor ym Medi 2015
Ar drothwy cynnal Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro mae'r cyngor sir wedi cael ei feirniadu.
Rhieni dros Addysg Gymraeg sy' wedi beirniadu'r penderfyniad i ohirio agor ysgol gynradd Gymraeg yn Ninbych y Pysgod.
Roedd hi i fod i gael ei hagor ym Medi 2015 ond bydd yn agor ym Medi 2016.
Roedd penderfyniad cabinet y cyngor sir o blaid agor ysgol yn unfrydol yn Rhagfyr y llynedd.
Dywedodd Heini Gruffydd o'r mudiad nad oedd y cyngor yn mesur y galw am addysg Gymraeg a honnodd nad oedd yn gwybod "i ba gyfeiriad yr oedd yn mynd".
Yn Rhagfyr 2012 cyhoeddodd Estyn adroddiad beirniadol.
'Galw am addysg'
Dywedodd nad oedd y cyngor "yn mesur y galw am addysg Gymraeg ac nad oedd ganddo ffyrdd eraill o gasglu'r wybodaeth.
"Nid oedd yn gwybod beth oedd gwir lefel yr angen," meddai. "Heb yr wybodaeth ni all gynllunio'n effeithiol ... mae hwn yn wendid pwysig."
Mae'r Cynghorydd Huw George, dirprwy arweinydd y cyngor sir, wedi dweud bod yr awdurdod lleol yn "ymateb i heriau y cyfeiriwyd atyn nhw yn adroddiad Estyn".
Dywedodd nad oedd y cyngor wedi cynllunio'n ddigon effeithiol yn y gorffennol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2012
