Eitemau arwisgo Charles: nol i Gymru?
- Cyhoeddwyd

Cafodd y Tywysog Charles ei arwisgo yn 1969 yng nghastell Caernarfon
Mae Aelod Cynulliad yn galw ar i eitemau a gafodd eu defnyddio yn ystod arwisgo y Tywysog Charles i gael eu harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Y flwyddyn nesaf mi fydd hi'n 45 mlynedd ers y seremoni yng nghastell Caernarfon ac mae Suzy Davies yn dweud iddi gael y syniad i ddangos yr eitemau yn y llyfrgell ar ol y tân diweddar yno:
"Ar ol y tân fydd e yn addas dw i'n credu cael rhywbeth yna a rhywbeth newydd sydd yn tynnu sylw at y llyfrgell, nid jest i bobl Cymru wybod mwy am hanes eu hunain ond i bobl sydd yn dod mewn i Gymru. Rydyn ni yn edrych am bethau i ddenu pobl i Gymru yn y cyfnod yma ar gyfer twristiaeth."
Ar y Post Cyntaf fore Mercher mi ddywedodd yr AC Ceidwadol bod y Tywysog Charles wedi ymweld a'r dref cyn yr arwisgiad er mwyn dysgu ychydig o Gymraeg ac i wybod mwy am hanes Cymru.
Fe fyddai hi yn hoffi gweld gwisg y tywysog, y cleddyf,y fodrwy a'r goron yn yr amgueddfa. Roedd yr eitemau am gyfnod wedi eu llogi i Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd.
Ond maen nhw erbyn hyn allan o olwg y cyhoedd meddai mewn stordy ym Mhalas St James yn Llundain: "Sneb yn gweld nhw fana. Dyw nhw ddim yn rhan o beth sydd ar gael yn tŵr Llundain er enghraifft.
Felly bydd e yn neis i bawb weld casgliad Cymru yn dod mas o'r lle na ac yn dod nol i'r golwg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd23 Mai 2013
