Dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd

Dyn o flaen llys arbennig yn Llandudno wedi ei gyhuddo o ladrad arfog.
Mae dyn 25 oed wedi bod o flaen llys arbennig wedi ei gyhuddo o ddefnyddio cyllell wrth geisio lladrata o siop bapurau newydd ym Mae Colwyn.
Mae Patrick Wood, sydd heb gyfeiriad parhaol, wedi ei gyhuddo o geisio dwyn a bwrglera ar ôl y digwyddiad yn Ffordd Abergele ddydd Iau.
Mae o hefyd yn wynebu cyhuddiad o fwrglera ar Fai 25. Mae yna honiadau bod gemau ac arian wedi eu dwyn o gartref gwraig weddw 82 oed.
Cafodd Mr Wood ei gadw yn y ddalfa. Bydd yn ymddangos yn llys y goron Caernarfon ar 10 Mehefin.