Hofrennydd a chŵn yn chwilio am ddyn sydd ar goll
- Cyhoeddwyd

Mae Graham Austin, o Sir Amwythig, ar goll ers ddydd Sul
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn 53 oed sydd ar goll.
Does neb wedi gweld Graham Austin, o Shifnal yn Sir Amwythig, ers tua 4:30am ddydd Sul.
Roedd ar ei wyliau yn aros mewn carafán yng Nghorwen.
Daethpwyd o hyd i'w gar yn ddiweddarach yn agos at Lyn Brennig ger Cerrigydrudion.
Yn ôl yr heddlu mae Mr Austin tua phum troedfedd wyth modfedd o daldra, a chanddo gorff cryf.
Mae ganddo wallt byr sy'n britho a barf llawn.
Credir ei fod yn gwisgo un ai jîns neu drowsus pyjamas, top pyjamas, côt werdd Berghaus ac esgidiau gwyrdd a brown.
Mae'r heddlu a thimau achub wedi bod yn chwilio amdano yn ardal Llyn Brennig gan ddefnyddio hofrennydd yr heddlu a chŵn chwilio ac achub.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Mr Austin gysylltu gyda'r heddlu ar 101, gan roi'r rhif cyfeirnod P085831.