Gethin Jenkins allan o dîm y Llewod
- Cyhoeddwyd

Teimlodd Gethin Jenkins dyndra yn ei goes ar ôl ymarfer drwy'r wythnos
Mae carfan y Llewod wedi cael dwy ergyd yn yr un safle oherwydd anafiadau.
Oherwydd yr anaf a gafodd yn y gêm yn erbyn Western Force ddydd Mercher, mae'r Gwyddel Cian Healy wedi gorfod tynnu nôl o'r garfan.
Cafodd prop Lloegr Alex Corbisiero ei alw allan i Awstralia i gymryd ei le.
Ond yna daeth y newyddion na fydd Gethin Jenkins yn holliach i wynebu'r Queensland Reds ddydd Sadwrn oherwydd anaf i'w goes.
Mae Healy a Jenkins yn chwarae yn safle'r prop pen rhydd.
Er nad yw Jenkins wedi gorfod dychwelyd adref, mae'r Llewod wedi galw ar brop yr Alban Ryan Grant i fod wrth gefn.
Mako Vunipola fydd yn llenwi'r bwlch yn y sgrym yn y gêm yn Brisbane ddydd Sadwrn.
Dywedodd hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland: "Mae Gethin wedi ymarfer drwy'r wythnos ond fe deimlodd e'i goes yn tynhau felly mae'n iawn iddo beidio chwarae yfory.
"Fe fyddwn yn ei asesu dros y 24-48 awr nesaf, ond mae Mako wedi gwneud yn dda yn y ddwy gêm ddiwethaf ac mae hwn yn gyfle arall iddo.
"Oherwydd anaf Cian rydym wedi penderfynu dod â Ryan i mewn rhag ofn, ac fe fydd e ac Alex Corbisiero yn cyrraedd yma yfory."