Pobl ifanc yn ceisio achub taith
- Cyhoeddwyd

Cafodd elusen Joshua's Wish ei sefydlu gan Sarah Cornelius-Price wedi i'w mab Joshua farw o ganser yn 1998
Mae pobl ifanc yn ceisio achub taith i Awstralia wedi i'r elusen a drefnodd y daith ddweud y byddai'n rhaid i chanslo ar ôl iddyn nhw alw cwmni methdalwyr i mewn.
Roedd tua 60 o bobl ifanc wedi talu £3,000 i elusen Joshua's Wish, ond fe gawson nhw wybod bod y daith ddim am ddigwydd pan gaeodd yr elusen.
Fe wnaeth 50 o bobl gafodd eu heffeithio wedi i Joshua's Wish gael ei gau gyfarfod yng Nghasnewydd nos Wener er mwyn ceisio gweld a allai rhan o'r gwyliau fynd yn ei flaen.
Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn dod o dde ddwyrain Cymru, ond roedd rhai wedi dod cyn belled â Nottingham a Chaerloyw.
Dywedodd rhai na fedran nhw dalu arian ychwanegol am lety newydd, yswiriant a chostau eraill.
Maen nhw a'u rhieni yn dweud eu bod yn flin na chawson nhw rhybudd am drafferthion allai fod wedi codi.
Roedd y £3,000 a dalwyd gan y bobl ifanc i fod i dalu am yr awyren, llety ac elfennau eraill yn Melbourne a Sydney.
Roedden nhw hefyd wedi talu'n ychwanegol i'r elusen i drefnu yswiriant, visas, dillad a theithiau arbennig gan gynnwys taith gerdded i ben pont enwog harbwr Sydney.
Roedd nifer o'r bobl ifanc yng nghanol sefyll arholiadau Lefel-A, ac wedi edrych ymlaen at y daith am bythefnos ar ddiwedd eu harholiadau.
Mae Anna Griffin, 17 oed o Gasnewydd, wedi trefnu cyfarfod ddydd Gwener gyda thua dwsin o'r lleill oedd i fod ar y daith o ardal y de-ddwyrain.
"Rydym yn dod at ein gilydd i weld os fedrwn ni achub rhywbeth, ac rwyf wedi ymchwilio i rai hostelau y bydden ni'n gallu aros ynddyn nhw," meddai.
"Mae'r cyfan yn dipyn o straen gan fy mod yng nghanol fy arholiadau Lefel-A.
"Yn anffodus does dim llawer ohonom ni fydd yn dal i fedru mynd i Awstralia gan fy mod wedi clywed gan lawer o bobl sy'n credu y bydd yn rhy ddrud."

Roedd rhai o'r bobl ifanc wedi talu'n ychwanegol am daith gerdded i frig pont enwog Harbwr Sydney
Roedd tad Anna, Michael Griffin, yn dweud ei fod yn flin iawn am y sefyllfa gan ofyn pam na chafodd y teuluoedd unrhyw rhybudd y gallai fod trafferthion gyda'r elusen.
Dywedodd: "Fe aethon ni i gyfarfod ychydig wythnosau yn ôl a thalu mwy o arian am fws i Heathrow - mae'n rhaid eu bod yn gwybod am y trafferthion bryd hynny."
Cadarnhaodd y cwmni methdalwyr Burton Sweet Corporate Recovery o Fryste ddydd Mercher bod Joshua's Wish wedi rhoi'r gorau i weithredu.
Fe wnaeth ymchwiliad gan BBC Cymru yn gynharach eleni ganfod bod yr elusen mewn dyled o hyd at £400,000 i Gyllid a Tholau Ei Mawrhydi, a bod y ddyled honno ar lyfrau'r elusen ers tua 2003/04.
Dywedodd sefydlydd yr elusen, Sarah Cornelius-Price, bod y ddyled wedi cael ei hawlio fel 'cymorth-rhodd' trwy gamgymeriad.
Fe sefydlodd yr elusen ychydig cyn i'w mab Joshua farw o ganser yn saith oed yn 1998. Pan gafodd yr elusen ei sefydlu roedd yn cynnig teithiau, gwyliau a phrofiadau i bobl ifanc oedd yn sal iawn.
Wrth son am y daith i Awstralia, dywedodd y cynorthwy-ydd methdalu Graham Down ddydd Mercher: "Rydym yn ceisio sefydlu beth yw'r union sefyllfa, ond mae'n annhebygol y bydd y daith yn digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
