Dau yn yr ysbyty wedi tân yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi mynd i'r ysbyty yn dioddef o losgiadau ac o anadlu mwg yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe.
Mae pedwar o griwiau o'r gwasanaethau tân wrthi yn ceisio taclo'r fflamau yng Nghwmllynfell.
Fe gafon nhw ei galw am tua 9.30 fore Sul.
Mae tŷ cyfagos hefyd wedi ei effeithio gan y tân.