Rowan Williams yw'r canghellor nesa'
- Cyhoeddwyd

Unodd Prifysgol Morgannwg (chwith) a Phrifysgol Casnewydd (dde) ym mis Ebrill
Mae Prifysgol De Cymru wedi dweud mai'r Gwir Barchedig a'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth fydd eu canghellor nesa'.
Mae'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Morris o Aberafan KG QC yn ymddeol yn hwyr yn y flwyddyn.
Roedd yr Arglwydd Williams yn Archesgob Caergaint rhwng 2002 a 2012 ac ar hyn o bryd fe yw Meistr Coleg Madlen yng Nghaergrawnt.
Daeth Dr Rowan Williams yn gymrawd anrhydeddus y brifysgol yn 2000 ac ym mis Gorffennaf bydd yn derbyn doethuriaeth anrhydeddus.
'Penigamp'
Gwnaethpwyd y cyhoeddiad yn Swyddfa Cymru, Tŷ Gwydyr yn Llundain, nos Lun.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Y Farwnes Randerson: "Bydd yn ganghellor penigamp ... a bydd ei egni a'i arbenigedd yn hwb i'r brifysgol ... nid oes neb yn fwy cymwys i gyflawni'r swydd hon."
Diolchodd i'r Arglwydd Morris am "chwarae rhan arwyddocaol wrth ddatblygu'r brifysgol"
"Fe ddylen ni oll fod yn falch o'r hyn mae wedi ei gyflawni."
Y canghellor yw pennaeth ffurfiol y brifysgol ac fe sy'n llywyddu digwyddiadau fel seremonïau graddio.
'Pleser personol'
Dywedodd yr Arglwydd Williams: "Mae dod yn ganghellor yn bleser personol ac yn ffynhonnell balchder.
"Cymuned academaidd egnïol yw hon sy'n cynnwys sawl cenedl a chred a'u hymroddiad ar y cyd yn sicrhau bod bywydau yn cael eu gweddnewid oherwydd gwybodaeth ac addysg.

Mae'r Arglwydd Williams wedi ei urddo i Orsedd y Beirdd
"Mae'r brifysgol yn bresenoldeb sylweddol ym Mhrydain a thu hwnt, ac yn rym sylweddol ar gyfer newid cadarnhaol yng Nghymru.
Dywedodd yr Arglwydd Morris o Aberafan: "Mae hon yn flwyddyn gyffrous i'r brifysgol sydd wedi cael enw newydd.
"Yn benodol, mae'n gyfnod amserol i mi ar ôl 12 mlynedd wrth y llyw. Rwy'n trosglwyddo'r awenau i rywun enwog, un o feibion Morgannwg ac un oedd yn gwasanaethu Gwent pan oedd yn esgob.
'Cynyddu'r cyfle'
"Roedd ein rhagflaenwyr am gynyddu'r cyfle i gael addysg. Rhaid i'r brifysgol barhau i wneud hynny.
"Ein her yw'r darparu'r addysg ar gyfer anghenion ein cymdeithas, cymhwyster sy'n golygu y gall ein graddedigion addasu at heriau'r dyfodol.
"Estynnaf fy nymuniadau gorau i Arglwydd Ystumllwynarth."
Ym mis Ebrill cafodd y brifysgol newydd ei sefydlu wedi i Brifysgolion Casnewydd a Morgannwg gyfuno.
Hwn yw sefydliad addysg uwch mwyaf Cymru ble mae dros 33,500 o fyfyrwyr yn astudio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2012
