Ar gof a chadw i Eisteddfodwyr
- Cyhoeddwyd

Bydd modd cael copïau o gystadlaethau'n dyddio'n ôl i 1999
Am y tro cynta' bydd modd prynu copi DVD o holl gystadlaethau, seremonïau a chyngherddau'r Brifwyl ers 1999 wrth i stondin newydd gael ei lansio ar y Maes yn Sir Ddinbych eleni.
Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru sy'n gyfrifol am y gwasanaeth ar stondin Copi, gyda chydweithrediad Eisteddfod Genedlaethol Cymru a BBC Cymru.
Yn ddiweddar, daeth yr archif, sydd wedi'i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gartref i'r casgliad cyflawn hwn o weithgareddau'r Eisteddfod, casgliad sy'n dyddio'n ôl i Eisteddfod Genedlaethol Môn 1999.
Nid yn unig y bydd modd prynu copïau o'r Eisteddfod eleni ond bydd hefyd opsiwn i brynu copïau o eitemau o unrhyw Eisteddfod ers 1999.
Bydd modd cysylltu â'r Archif Sgrin a Sain wedi wythnos yr Eisteddfod hefyd i archebu.
'Diogelu i'r dyfodol'
Dywedodd Dafydd Pritchard, Rheolwr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru: "Mae hi yn fraint cael derbyn y casgliad yma i'r archif a'i ddiogelu i'r dyfodol.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau'r fenter newydd hon ac i ddarparu'r gwasanaeth yma i Eisteddfodwyr eleni."
Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru: "Mae'r Eisteddfod yn croesawu'r bartneriaeth gyda'r Llyfrgell Genedlaethol ac yn edrych ymlaen at gyfnod o gydweithio rhwng y ddau sefydliad."
Bydd yr archif hefyd yn trwyddedu'r deunydd i gwmnioedd cynhyrchu sydd eisiau darlledu clipiau o Eisteddfodau. Ceir mwy o fanylion am y gwasanaeth yma, ynghyd â phrisiau ar y wefan