Corff mewn dŵr: Agor a gohirio cwest
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio o hyd wrth i gwest gael ei agor a'i ohirio.
Daethpwyd o hyd i gorff mewn dŵr yn ardal Doc y Gogledd, Llanelli, nos Lun.
Dywedodd yr heddlu: "Fe allwn ni gadarnhau taw Karol Jan Rutkowski o'r dre' oedd y dyn.
"Roedd yn 46 oed."