Tân yn Abergele: dyn wedi ei gyhuddo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gyhuddo o roi fflat ar dân yn fwriadol yn Abergele.
Bydd y dyn lleol 31 oed yn ymddangos o flaen llys ynadon Llandudno bore Gwener.
Mae'n wynebu dau honiad o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad i beryglu bywyd.