Damwain car: menyw yn cael anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn damwain car yng Ngwynedd brynhawn Llun.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A493 ar allt Friog rhwng Dolgellau a Thywyn cyn 3pm.
Bu'n rhaid i ddau berson fynd i ysbyty Gwynedd.
Mae menyw yn parhau mewn cyflwr difrifol wedi iddi gael nifer o anafiadau.
Fe aeth dyn i'r ysbyty hefyd.