Buwch ar lôn ymadael am gyfnod ger M4 yn Llangyfelach
- Cyhoeddwyd
Mae buwch oedd ar y lôn ymadael ger yr M4 wedi dychwelyd i'r cae ger J46 yn Llangyfelach ger Abertawe.
Roedd yr anifail wedi llwyddo i gyrraedd y lôn ymadael fore Mawrth.
Ar un adeg roedd yna bryderon y byddai'n cyrraedd y draffordd.
Doedd dim angen i neb symud y fuwch.