Lori'n troi drosodd: dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr lori yn yr ysbyty wedi i'w gerbyd droi drosodd ar y gylchfan yn Sarn ger Pen-y-bont.
Dywed yr heddlu nad yw ei anafiadau yn rhai difrifol.
Cafodd pedwar criw o ddynion tân o Ben-y-bont a Malpas eu gyrru i'r digwyddiad toc wedi 9.30am fore Mawrth ger J36 yr M4.
Am 11.15am roedd criwiau dal yno yn sicrhau bod yr ardal yn saff.