Llafur yn cyhoeddi rhestr fer Môn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi rhestr fer o bedwar fydd yn ceisio am enwebiad ar gyfer Isetholiad Ynys Môn.
Y pedwar yw Julia Dobson, Daniel ap Eifion Jones, Tal Michael a Paul Penlington.
Mae isetholiad yn cael ei gynnal wedi i'r Aelod Cynulliad oedd yn cynrychioli'r Ynys, Ieuan Jones, sefyll i lawr yn annisgwyl.
Bydd aelodau lleol yn penderfynu pa un o'r pedwar fydd yn ymgeisio mewn cyfarfod ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2013
