Dyn mewn cyflwr difrifol iawn wedi saethu Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd heddlu arfog eu galw fore Iau
Mae Heddlu Gwent wedi dweud bod dyn 49 oed yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol iawn ond sefydlog yn yr ysbyty wedi'r saethu yng Nghasnewydd ddydd Iau.
Mae'r heddlu'n ymchwilio o hyd wedi i fenyw 46 oed farw.
Y fenyw oedd Caroline Parry o Gasnewydd.
Cafodd plismyn arfog eu galw i Seabreeze Avenue oddi ar Stryd Willenhall yng Nghasnewydd am 8.45 fore Iau.
Dywedodd yr heddlu fod y saethu'n "drychinebus".
Mae achos wedi ei gyfeirio i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
Gwahanu
Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw'r fenyw.
Roedd y ddau wedi bod yn briod ond wedi gwahanu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Huw Nicholas: "Roedd y ddau mewn perthynas o'r blaen a hyn wedi dod i sylw'r heddlu.
"Am y rheswm hwn rydym ni wedi cyfeirio'r mater i'r comisiwn."
Casnewydd
Dywedodd yr IPCC: "Mae'r cyfeirio'n ymwneud â chyswllt rhwng yr heddlu a'r cwpl cyn y digwyddiad.
"Ond mae yna ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr heddlu i'r saethu a dyna yw'r flaenoriaeth ar hyn o bryd."
Cafwyd hyd i wn ar y safle a chafodd yr ardal ei chau.
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd y ddau.
Tyst
Mae Sam Williams, 33, yn byw ar Seabreeze Avenue ac roedd yn un o'r cyntaf ar y safle ddydd Iau.
"Ychydig cyn naw o'r gloch clywais i ergyd. Roeddwn i'n meddwl mai car oedd e.
"Dechreuais fynd i lawr y grisiau ac roedd fy mhartner yn mynd allan a clywais ergyd arall.
"Yna clywais hi'n sgrechen. Roedd hi ar y ffôn gyda'r heddlu."
Aeth Mr Williams at y ceir a gwelodd ddau berson ar lawr.

Mae'r heddlu wedi cau'r safle tra bod ymchwilwyr fforensig yn gweithio
"Gwelais y dyn ar y llawr ac roedd yn anadlu ond roedd mewn cyflwr ofnadwy.
"Roedd yna wn a dau getrisen ar y llawr."
'Anarferol'
Dywedodd Victoria Neill, 26 oed, ei bod wedi clywed y saethu.
"Gwelais ddau berson yn gorwedd yn y stryd y naill ochr a'r llall i gar oedd wedi ei barcio yng nghanol y stryd".
"Roeddwn i'n meddwl mai dau ddyn oedden nhw ond doeddwn i ddim yn gweld yn iawn, roedden nhw'n wynebu'r llawr."
"Roedd drysau'r car a'r bŵt ar agor, oedd yn anarferol."