Teyrnged i ddyn ifanc fu farw
- Cyhoeddwyd

Roedd Daniel Williams yn 23 oed
Mae teulu dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad yn gynharach y mis yma wedi rhoi teyrnged iddo.
Lladdwyd Daniel Mark Williams, 23 oed, mewn gwrthdrawiad ar yr A494 ger Gwyddelwern ar ddydd Sadwrn, Awst 10.
Wrth siarad ar ran y teulu dywedodd chwaer Daniel, Leandra Williams: "Roedd Dan bob amser yn hapus ac yn berson hoffus iawn.
"Roedd yn mwynhau bywyd i'r eithaf, wrth ei fodd gyda cherddoriaeth a chymdeithasu gyda'i ffrindiau. Roedd bob tro'n gwneud i chi wenu - roedd yn un mewn miliwn."
Ar ôl gadael Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun bu'n gweithio ar ffermydd lleol am gyfnod cyn dilyn ei frawd i weithio i fusnes adeiladu ei dad.
"Roedd wrth ei fodd yn gweithio i Dad," ychwanegodd Leandra, "roedd yn gyrru jac-codi-baw ac yn teithio ar draws y wlad.
"Roedd yn brysur drwy'r amser, ac yn awyddus i ddysgu pethau newydd.
"Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod."
Mae Daniel Williams yn gadael ei rieni David a Lyn, ei frawd Chris, chwaer Leandra a'i gariad Hayley Jones.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2013

- Cyhoeddwyd11 Awst 2013
