Mott yn gadael Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae Criced Morgannwg wedi cyhoeddi y bydd eu pennaeth perfformiad elit, Matthew Mott, yn gadael y clwb pan ddaw ei gytundeb presennol i ben.
Mae Mott wedi penderfynu dychwelyd i Awstralia, ond bydd yn parhau'n gyfrifol am y tîm cyntaf tan ddiwedd y tymor.
Dywedodd prif weithredwr Criced Morgannwg, Alan Hamer:
"Hoffwn ddiolch yn bersonol i Matthew am ei gyfraniad i'r clwb yn ystod y tair blynedd diwethaf...
"Unwaith y mae'r tymor wedi dod i ben, byddwn yn dechrau ar y broses o gael hyd i hyfforddwr newydd ar gyfer y tîm cyntaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012

Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol