Accrington 0-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Rudy Gestede gafodd yr ail gôl
Mae Caerdydd wedi maeddu Accrington Stanley yn ail rownd Cwpan Capital One.
Hon oedd y gêm gystadleuol gynta' rhwng y ddau dîm.
Roedd hi'n 0-0 ar yr egwyl.
Ar ôl 60 munud sgoriodd Nicky Maynard â'i droed dde cyn i Rudy Gestede rwydo funud a hanner yn ddiweddarach.
Nid oedd y newyddion i gyd yn dda - cafodd Andreas Cornelius anaf i'w figwrn oherwydd tacl ffyrnig.
Ni fydd ar gael i chwarae yn erbyn Everton ddydd Sadwrn.
Bydd Caerdydd yn wynebu West Ham oddi cartre' yn nhrydedd rownd Cwpan Capital One.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol