Gwn ffug: Cyhuddo tri dyn
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo yn dilyn digwyddiad yng Nghaerffili pan welwyd grŵp o ddynion mewn car gyda rhywbeth tebyg i wn.
Cafodd tri dyn eu harestio ddydd Iau wrth i'r heddlu atal car VW Golf ar Ffordd Caerdydd.
Cafodd dyn 26 oed a dyn 35 oed eu cyhuddo o fod â gwn ffug yn eu meddiant gyda'r bwriad o achosi pryder am drais.
Fe gafodd dyn arall 37 oed ei gyhuddo o fod â gwn ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi pryder am drais, gyrru pan oedd wedi'i wahardd, gyrru cerbyd heb drwydded nac yswiriant.
Mae'r dynion i gyd yn hanu o ardal Caerffili.
Fe gafodd y tri eu cadw yn y ddalfa tan y byddan nhw'n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerffili yn ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2013
