Gorchymyn am 'greu anhrefn' ym Mhendyrus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi cael gorchymyn ymddygiad gwrth-gymdeithasol wedi iddo "greu anhrefn" mewn cymuned, medd cyngor.
Cafodd Aaron Llewellyn o Stryd Parry, Pendyrus, y gorchymyn yn sgil achosion o ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn erbyn pobl hŷn, pobl anabl a phlant.
Clywodd Llys Ynadon Pontypridd ei fod wedi sarhau a chodi ofn drwy daflu cerrig at ffenestri, gweiddi ar blant a swyddogion yr heddlu a bod yn sarhaus i bobl anabl.
Sarhau
Mae wedi ei wahardd rhag cymdeithasu gyda phump o bobl a rhag mynd i ardal benodol ar East Road.
Roedd Mr Llewellyn ac eraill wedi sarhau a bygwth dyn lleol 39 oed sy'n dioddef o anawsterau dysgu a salwch meddwl.
Roedd hefyd wedi gweiddi sloganau o natur rywiol ar ddwy ferch 14 oed.
Os bydd yn torri unrhyw amod o'r gorchymyn, gallai gael ei arestio a'i erlyn yn syth.
Dywedodd Phil Bevan, Pennaeth Diogelwch yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf: "Fyddwn ni ddim yn goddef ymddygiad sy'n cael effaith mor negyddol ar eraill.
"Mae wedi codi ofn ar bobl Pendyrus ac roedd yr effaith ar bobl leol yn ofnadwy."