Siop yn cefnu ar ganol tref Llanelli
- Cyhoeddwyd

Mae gan Clarks siop arall mewn parc siopa ar gyrion y dref
Mae un arall o siopau'r stryd fawr wedi dweud eu bod yn gadael canol tref Llanelli.
Dywed siop esgidiau Clarks na fyddant yn adnewyddu'r les o fis Hydref.
Ddechrau'r flwyddyn fe wnaeth cyngor sir Caerfyrddin gyhoeddi eu bod wedi cwblhau'r cam diweddara' o gynllun gwerth £60 miliwn i adnewyddu canol y dref a rhoi hwb i siopau'r stryd fawr.
Mae gan Clarks siop arall ar gyrion Llanelli ym mharc manwerthu Parc Trostre.
Dywed un o arweinwyr busnes y gymuned leol y dylid cael parcio di-dâl yng nghanol Llanelli er mwyn i'r siopau lleol allu cystadlu gyda Pharc Trostre.
Dywedodd cyngor sir Caerfyrddin eu bod wedi ceisio perswadio Clarks i gadw'r siop ar agor.
'Trywydd cywir'

Yn ogystal â'r gwesty mae sinema sydd â phum sgrin ac amryw o fwytai i'w cael yn natblygiad Porth y Dwyrain
Ymhlith y siopau adnabyddus sydd wedi gadael canol y dref ers 2007 mae M&S, W H Smith, Topshop a Mothercare.
Yn ôl cadeirydd mudiad Busnes a Gweithredu Cymdeithasol, Mike Theodoulou, dylai rheolau cynllunio roi mwy o ystyriaeth i anghenion busnesau lleol cyn rhoi caniatâd i godi parciau manwerthu.
"Ond mae hynny yn rhy hwyr i rywle fel Llanelli. Mae Parc Trostre wedi ei sefydlu felly mae'n rhaid gwneud rhywbeth mwy positif," meddai.
"Byddai parcio di-dâl yn cynnig yr un amodau ac mae siopwyr yn mwynhau ym Mharc Trostre.
"Ond mae'r cyngor ar y trywydd cywir o ran ceisio denu atyniadau adloniant a thai bwyta i ganol y dref.
"Bydd natur canol trefi yn y dyfodol yn newid ac mae'n rhaid derbyn hynny."
'Llai llewyrchus'
Mae cynllun adfywio eisoes wedi dechrau yn yr ardal.
Mae cynllun adnewyddu Porth y Dwyrain yn cynnwys gwesty 50 gwely, theatr, sinema chwe sgrin a nifer o dai bwyta.
Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys adfer adeilad hanesyddol Llanelly House a llyfrgell y dref.
Pan gafodd Theatr Ffwrnes ei hagor ym mis Ionawr ar gost o £15 miliwn - dywedodd Meryl Gravell, aelod o fwrdd gweithredol y cyngor sir: "Mae bwrlwm yn perthyn i'r datblygiad hwn sy'n llawn addewid.
"Er gwaethaf yr holl ofid ledled y wlad yn gyffredinol, mae'r gobaith sydd ynghlwm wrth Borth y Dwyrain yn siŵr o helpu i adfywio busnesau'r stryd fawr yn Llanelli."
Ond mae Dyfrig Thomas, cyn berchennog siop lyfrau Cymraeg yng nghanol y dref, yn gweld dyfodol llai llewyrchus.
"Dwi ddim yn credu gwneith y datblygiadau diweddara' lot o les i'r siopau bach.
"Bydd yr atyniadau yn denu pobl gyda'r nos ond gyda Pharc Trostre - a llefydd parcio am ddim - mae'n anodd cystadlu."
Gadael
Fe wnaeth Clarks gadarnhau eu bod yn gadael Llanelli ar Hydref 5, ond doedd neb ar gael i wneud sylw am y rhesymau y tu ôl i'r penderfyniad.
Dywedodd y Cyngor eu bod wedi ceisio perswadio'r cwmni i gadw'r siop yng nghanol y dref, gan gynnig rhent is ar gyfer y safle.
"Mae'n amlwg nad ydyn nhw'n fodlon ystyried cael dwy siop yn Llanelli a'u bod am ganolbwyntio ar eu siop ym Mharc Trostre," meddai pennaeth eiddo corfforaethol y cyngor, Jonathan Fearn.
"Nid oedd eu penderfyniad yn ymwneud â rhent a does dim diddordeb gyda nhw mewn trafod cadw siop yng nghanol y dref.
"Byddwn yn ceisio denu cwmni arall i'r safle gwych yma cyn gynted â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012

- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2013