Menyw ar goll: heddlu yn apelio am wybodaeth
- Cyhoeddwyd

Dyw Lynette Manley sydd yn 39 oed ddim wedi ei gweld ers ddydd Iau
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i fenyw 39 oed o Lanisien.
Cafodd Lynette Manley ei gweld am y tro diwethaf yn yr Eglwys Newydd ddydd Iau, ac mae'r heddlu yn dweud eu bod yn pryderu.
Mae swyddogion wedi edrych amdani yn ei chartref ac mewn dau leoliad y mae'n mynd iddynt yn aml sef mynwent Glyntaf ym Mhontypridd a pharc hamdden yn Y Rhath, ond dyw hi ddim wedi dod i'r fei.
Disgrifir Lynette Manley fel menyw wyn, pum troedfedd tair modfedd o uchder gyda gwallt syth i'w hysgwyddau.
Gofynnir i unrhyw un sydd wedi ei gweld neu sydd gydag unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu ar y rhif 101.