Dirwy o £250,000 i gwmni ailgylchu wedi i ddyn farw
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni ailgylchu yn gorfod talu dirwy o £250,000 ar ôl i weithiwr gael ei wasgu i farwolaeth.
Roedd Geraint Eagle, o Nant-y-moel ger Pen-y-Bont ar Ogwr, yn glanhau pont bwyso ar safle'r cwmni Nolan Recycling pan darodd lori i mewn iddo.
Clywodd Llys y Goron nad oedd gyrrwr y lori wedi gweld y dyn 21 oed a'i fod wedi cael anafiadau difrifol i'w ben.
Dim ond ers chwech mis yr oedd wedi bod yn gweithio i'r cwmni pan ddigwyddodd y ddamwain ar Ragfyr 2, 2010.
Wedi i'r swyddogion Iechyd a Diogelwch ymchwilio mi ddaethon nhw ag achos yn erbyn Nolan Recycling.
Clywodd y llys nad oedd y busnes ailgylchu wedi rhoi hyfforddiant a chyngor i weithwyr, nad oedden nhw wedi cadw golwg ar ei staff, yn enwedig Geraint Eagle, ac nad oedd cynllun iechyd a diogelwch yn ei le.
'Diogelwch yn gyntaf'
Fe blediodd y cwmni yn euog ac fe fydd rhaid iddyn nhw dalu £53,100 o gostau.
Dywedodd tad y dyn, Paul Eagle: "Rydyn ni i gyd yn gweld eisiau Geraint yn fawr iawn. Mae'r drasiedi yma wedi cael effaith fawr ar ein teulu.
"Dwi i'n gobeithio y bydd busnesau eraill yn dysgu gwersi ac yn rhoi diogelwch gweithwyr yn gyntaf.
"Ni ddylai unrhyw deulu arall orfod dioddef yn y ffordd rydyn ni wedi gwneud."