Menyw ar goll: heddlu eisiau gwybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ynglŷn â lle mae Georgina Lewis.
Dyw'r fenyw 58 oed ddim wedi ei gweld ers 8.30 nos Wener pan oedd hi yn ei chartref ym Mhont-y-pŵl.
Mae'n pum troedfedd a dwy fodfedd o daldra gyda gwallt byr llwyd ac fel arfer mae'n gwisgo tracwisg.
Credir ei bod yn ardal Casnewydd, Cwmbrân neu Y Fenni. Mae'n defnyddio'r bws yn aml i deithio ond fe allai hefyd fod yn cerdded.
Gofynnir i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth ynglŷn â lle mae hi i gysylltu gyda heddlu Gwent trwy ffonio 101 a rhoi'r rhif cyfeirnod 298 27/9/13.