Mesur Teithio Llesol yn cael ei basio
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r mesur gael cymeradwyaeth derfynol y Cynulliad ddydd Mawrth
Mae'r Mesur Teithio Llesol, dolen allanol wedi cael ei gymeradwyo'n unfrydol gan Aelodau'r Cynulliad.
Bydd nawr yn mynd ymlaen i gael sêl bendith Brenhinol cyn iddo ddod yn ddeddf.
Nod y mesur yw hyrwyddo ac annog mwy o bobl i ystyried defnyddio beic neu gerdded yn hytrach na dibynnu ar bedair olwyn.
Bydd yn golygu cynllunio strategol ar gyfer llwybrau beiciau a cherdded ar draws Cymru a mesurau i hybu eu defnydd gan bob awdurdod lleol.
Mae grwpiau teithio a iechyd wedi croesawu'r mesur.
'Carreg filltir'
Dywedodd Jane Lorimer, cyfarwyddwr yr elusen deithio cynaliadwy Sustrans Cymru:
"Mae heddiw wir yn garreg filltir bwysig i Gymru lle bydd deddfwriaeth yn cwrdd â nifer o argymhellion adroddiad Get Britain Cycling a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol yn San Steffan.
"Rhaid clodfori'r Prif Weinidog Carwyn Jones am hybu'r ddeddfwriaeth yma yn bersonol, a'r effaith y bydd yn ei gael ar Gymru.
"Gobeithio y bydd rhannau eraill o'r DU yn troi eu golygon at Gymru ac edrych ar yr hyn y gallai'r mesur yma'i gyflawni."
Roedd Delyth Lloyd, rheolwr polisi elusen Sefydliad y Galon Cymru, yn nodi buddion iechyd y mesur, gan ddweud:
"Bydd y mesur yma'n gwneud cerdded a seiclo i'r gwaith neu'r ysgol yn haws fyth, ac mae'n gam pwysig tuag at gael pobl Cymru i wneud mwy o ymarfer corff.
"Mae gormod ohonom yn peryglu ein hiechyd drwy beidio gwneud digon o weithgaredd corfforol. Mae'n ffordd wych o warchod yn erbyn clefyd y galon, a gall gwneud lle i weithgaredd o'r fath i'n bywydau bob dydd wneud byd o wahaniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2013

- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Awst 2012

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2012
