Caerdydd yw'r ddinas orau i bobl ifanc
- Cyhoeddwyd

Mae swyddi, cyflogau da a chostau isel yn cyfrannu at safon bywyd uchel i bobl ifanc Caerdydd
Caerdydd yw'r ddinas orau yn y DU i oedolion ifanc fyw ynddi, yn ôl canlyniadau pôl newydd.
Daeth prifddinas Cymru o flaen Llundain, Caeredin a Belfast oherwydd costau byw isel, cyfleoedd am swyddi da a chyflogau cymharol uchel.
Cafodd mwy na 2,000 o bobl rhwng 18 a 30 oed o dros y DU eu holi fel rhan o'r pôl gan gwmni buddsoddi ac yswiriant Legal & General.
Dywedodd saith o bob 10 yng Nghaerdydd eu bod yn hoff iawn o'u swyddi ac yn ennill cyflog blynyddol o £21,585 ar gyfartaledd.
Yn Llundain y gwelwyd y cyflogau uchaf ar gyfartaledd, ond mae costau byw uchel, costau rhentu tai a chyfraddau uwch o droseddu yn golygu mai yn y 15fed safle mae prifddinas y DU.
Mae'r canlyniadau yn dangos bod 70% o'r rheiny a holwyd yn hapus gyda'r cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden yn eu bywydau.
Ond yn Sheffield a Wakefield, nid oedd trigolion mor hapus gyda'r balans yma, un rheswm pam bod y dinasoedd yma yn is ar y rhestr.
'Llawer i'w gynnig'
Edinburgh oedd y ddinas orau ar gyfer diwylliant ac adloniant, ac fe ddaeth yn bumed yn y rhestr.
Dr Esmee Hanna, arbenigwraig mewn demograffeg ysgrifennodd yr adroddiad gan Legal & General.
"Fe wnaethon ni ofyn i bobl rhwng 18 a 30 yn uniongyrchol beth oedden nhw'n teimlo oedd yn cael yr effaith fwyaf ar eu safon bywyd," meddai.
"Bodlonrwydd gyda'i swyddi a chostau byw oedd yn bennaf gyfrifol am eu safon bywyd, gyda'r cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden hefyd yn bwysig.
"Mae Caerdydd yn dod i frig y rhestr ar gyfer safon bywyd i bobl ifanc oherwydd mae'n ymddangos bod gan y ddinas lawer i'w gynnig fel cyfleoedd am swyddi, cyflogau da a'r gallu i bobl i roi arian i un ochr bob mis - ffactorau mae pobl rhwng 18 a 30 oed yn eu gweld yn bwysig."